RHAN 8Cymhwyso ac addasu’r Ddeddf
Cymhwyso ac addasu’r Ddeddf
regulation 16 16.—(1) Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf, neu at unrhyw Ran o’r Ddeddf, yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
regulation 16 1 a (a)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);
regulation 16 1 b (b)adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);
regulation 16 1 c (c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3;
regulation 16 1 d (d)adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
regulation 16 1 e (e)adran 32(1) i (8) (pwerau mynediad) gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3;
regulation 16 1 f (f)adran 33(1) a (2) (rhwystro etc. swyddogion);
regulation 16 1 g (g)adran 34 (terfynau amser ar gyfer erlyniadau) gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3;
regulation 16 1 h (h)adran 35(1) a (2) (cosbi troseddau) gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 3;
regulation 16 1 i (i)adran 36 (troseddau gan gyrff corfforedig);
regulation 16 1 j (j)adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd);
regulation 16 1 k (k)adran 37(1), (3), (5) a (6) (apelau i lys ynadon) gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 3;
regulation 16 1 l (l)adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 3;
regulation 16 1 m (m)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll);
regulation 16 1 n (n)adran 49(1), (3), (4) a (5) (ffurf a dilysu dogfennau) gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 7 o Atodlen 3;
regulation 16 1 o (o)adran 50 (cyflwyno dogfennau).