ID badges: Hide | Show

RHAN 7Materion atodol a gweinyddol

Canllawiau o ran defnyddio cosbau ariannol penodedig

regulation 13 13.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd gyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o’r pŵer ym mharagraff 1 o Atodlen 2 (pŵer i osod cosbau ariannol penodedig).

(2Rhaid i’r canllawiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) gynnwys gwybodaeth gan gynnwys (pa un ai ymhlith pethau eraill ai peidio)—

regulation 13 2 a (a)yr amgylchiadau pan fo cosb ariannol benodedig yn debygol o gael ei gosod o dan y Rheoliadau hyn,

regulation 13 2 b (b)yr amgylchiadau pan na chaniateir ei gosod,

regulation 13 2 c (c)swm y gosb,

regulation 13 2 d (d)sut y caniateir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw, ac

regulation 13 2 e (e)hawliau person i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a’i hawliau apelio.

(3Rhaid i’r awdurdod bwyd adolygu’r canllawiau pan fo’n ystyried ei bod yn briodol.

(4Rhaid i’r awdurdod bwyd ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig.

(5Rhaid i bob awdurdod bwyd roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Cyhoeddi camau gorfodi

regulation 14 14.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd o bryd i’w gilydd gyhoeddi adroddiad am y camau gorfodi y mae wedi eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i’r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) bennu—

regulation 14 2 a (a)yr achosion y gosodwyd cosb ariannol benodedig ynddynt, a

regulation 14 2 b (b)yr achosion y cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig ynddynt drwy dalu’r gosb yn dilyn yr hysbysiad o fwriad a heb fod camau pellach yn cael eu cymryd.

(3Ym mharagraff (2)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd y gosb ariannol benodedig ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r gosb wedi ei gosod ond wedi ei gwrthdroi ar apêl.

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’r canlynol yn wir ar adeg cyhoeddi’r adroddiad—

regulation 14 4 a (a)nid yw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y gosb ariannol benodedig wedi dod i ben eto, neu

regulation 14 4 b (b)mae apêl a gyflwynwyd yn unol â pharagraffau 8 a 9 o Atodlen 2 yn yr arfaeth mewn perthynas â’r gosb ariannol benodedig.

(5Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n awdurdodi prosesu data personol pan fyddai gwneud hynny yn mynd yn groes i’r ddeddfwriaeth diogelu data, ac at y dibenion hyn, mae i “data personol” ac “y ddeddfwriaeth diogelu data” yr un ystyr ag a roddir i “personal data” a “the data protection legislation” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(1).

Adolygu

regulation 15 15.—(1Yn ogystal â’r adolygiad a gynhelir o dan adran 67 (adolygu) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, rhaid i Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd adolygu’r ddarpariaeth reoleiddiol sydd wedi ei chynnwys yn y Rheoliadau hyn a chyhoeddi adroddiad sy’n nodi casgliadau’r adolygiad.

(2Rhaid cyhoeddi’r adroddiad cyntaf cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(3Rhaid cyhoeddi adroddiadau dilynol ar ysbeidiau heb fod yn hwy na 5 mlynedd.

(4Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliad hwn, yn benodol—

regulation 15 4 a (a)nodi’r amcanion y bwriedir eu cyflawni gan y ddarpariaeth reoleiddiol yn y Rheoliadau hyn,

regulation 15 4 b (b)asesu i ba raddau y cyflawnir yr amcanion hynny,

regulation 15 4 c (c)asesu i ba raddau y mae’r amcanion hynny yn parhau’n briodol, a

regulation 15 4 d (d)os yw’r amcanion hynny yn parhau’n briodol, asesu i ba raddau y gellid eu cyflawni mewn ffordd arall sy’n cynnwys darpariaeth reoleiddiol lai beichus.

(5Yn y rheoliad hwn mae i “darpariaeth reoleiddiol” yr un ystyr â “regulatory provision” yn adran 32 o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015(2).

(1)

2018 p. 12; diwygiwyd adran 3 gan O.S. 2019/419.