RHAN 4Cyfyngu ar hyrwyddiadau pris ar gyfer diodydd penodol
Cyfyngu ar hyrwyddiadau pris ar gyfer diodydd penodol
regulation 8 8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddiod nad yw’n eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu ac—
regulation 8 1 a (a)sy’n dod o fewn categori 1 o Atodlen 1,
regulation 8 1 b (b)sy’n llai iach yn rhinwedd y ffaith bod ganddi sgôr o 1 pwynt neu ragor yn unol â’r Canllawiau Technegol ar gyfer Proffilio Maethynnau, ac
regulation 8 1 c (c)nad yw’n fwyd y mae rheoliad 3(6) (gwerthiant bwyd elusennol) yn gymwys iddo.
(2) Ni chaiff person cymhwysol gynnig hyrwyddiad ail-lenwad am ddim ar gyfer diod y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddi.
(3) Ystyr “hyrwyddiad ail-lenwad am ddim” yw hyrwyddiad sy’n cynnig i’r defnyddiwr yr un ddiod neu ddiod arall y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddi (gan gynnwys ychwanegiadau am ddim at unrhyw ddiod o’r fath), am ddim ar ôl yfed diod gyntaf.