NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer eu pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16) a Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13). Maent yn darparu ar gyfer cyfyngu ar hyrwyddo a chyflwyno bwydydd a diodydd penodol sy’n llai iach.
Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau dehongli cyffredinol (rheoliad 2).
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diffinio’r bwydydd a’r diodydd (“bwyd penodedig”) (rheoliad 3 ac Atodlen 1) a’r busnesau (“busnes cymhwysol”) (rheoliad 4) y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn nodi cyfyngiadau ar hyrwyddo a chyflwyno bwyd penodedig. Mae rheoliad 5 yn gwahardd busnes cymhwysol rhag cynnig hyrwyddiadau pris penodol ar gyfer bwyd penodedig. Mae rheoliad 6 yn gwahardd busnes cymhwysol rhag cyflwyno bwyd penodedig mewn lleoliadau penodol mewn siop. Mae rheoliad 7 yn gwahardd busnes cymhwysol rhag cyflwyno bwyd penodedig mewn lleoliadau penodol o farchnadle ar-lein.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwahardd busnes cymhwysol rhag cynnig hyrwyddiadau ail-lenwi am ddim ar gyfer diodydd penodol (rheoliad 8).
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â gorfodi’r cyfyngiadau. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu’r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal. Mae rheoliad 10 yn galluogi awdurdod bwyd i gyflwyno hysbysiad gwella i berson pan fo ganddo seiliau rhesymol dros gredu bod y person yn methu â chydymffurfio ag un neu ragor o’r cyfyngiadau yn rheoliadau 5 i 8.
Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn creu trosedd pan fo person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella (rheoliad 11). Gall hyn arwain at ddirwy ddiderfyn. Mae Rhan 6 hefyd yn galluogi awdurdod bwyd i osod cosb ariannol benodedig o £2,500 yn ddewis arall fel sancsiwn sifil ar gyfer gorfodi trosedd o dan reoliad 11 ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sy’n ymwneud â chosbau ariannol penodedig (rheoliad 12 ac Atodlen 2). Pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod, mae hyn yn atal euogfarn droseddol am y drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.
Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn ymdrin â materion atodol a gweinyddol. Mae rheoliadau 13 a 14 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod bwyd gyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o’r pŵer i osod cosbau ariannol penodedig ac adroddiadau am y camau gorfodi y mae wedi eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r ddarpariaeth reoleiddiol sydd wedi ei chynnwys yn y Rheoliadau hyn ac i gyhoeddi adroddiad sy’n nodi’r casgliadau cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac ar ysbeidiau heb fod yn hwy na 5 mlynedd wedi hynny.
Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn yn cymhwyso, gydag addasiadau, wahanol ddarpariaethau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 16 ac Atodlen 3).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.