Offerynnau Statudol Cymru
2025 Rhif 395 (Cy. 79)
Bwyd, Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025
Gwnaed
26 Mawrth 2025
Yn dod i rym
26 Mawrth 2026
term deddf 2008 term deddf 1990 Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4)(a), 16(1)(e) ac (f), 26(3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) (“Deddf 1990”) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), ac adran 62(2) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008(3) (“Deddf 2008”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf 1990(4).
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, dyddiedig 28 Ionawr 2002, sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori yn unol ag adrannau 59(3) a 60(1) o Ddeddf 2008(6).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, yn unol ag adran 66 o Ddeddf 2008, y bydd awdurdodau bwyd (sy’n rheoleiddwyr at ddiben y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn.
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 62(3) o Ddeddf 2008(7), ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
term deddf 1999 1990 p. 16. Diwygiwyd adran 6(4)(a) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40); paragraff 10(1) a (3)(a) a (b) o Atodlen 5, ac Atodlen 6, i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”); ac Atodlen 2 i O.S. 2002/794. Diwygiwyd adrannau 16(1) ac 48(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999.
term deddf 2006 Rhoddwyd y swyddogaethau hynny, a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“Deddf 2006”) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
2008 p. 13. Diwygiwyd adran 39(4) gan O.S. 2015/664. Diwygiwyd adran 36(2) gan Ran 3 o Ddeddf Menter 2016 (p. 12). Diffinnir “prescribed” yn adran 71(1) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13).
Mewnosodwyd adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28).
EUR 2002/178, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mae adran 71(1) o Ddeddf 2008 yn darparu mai ystyr “relevant authority”, mewn perthynas â darpariaeth a wneir o dan Ran 3 neu yn rhinwedd y Rhan honno gan Weinidogion Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
Mae’r cyfeiriad yn adran 62(3) o Ddeddf 2008 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf 2006.