RHAN 1Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli
regulation 1 1.—(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2025.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
term adroddiad arolygu ystyr “adroddiad arolygu” (“inspection report”) yw adroddiad a lunnir gan Weinidogion Cymru ar ôl arolygiad yn unol ag adran 36 o’r Ddeddf;
term darparwr gwasanaeth perthnasol ystyr “darparwr gwasanaeth perthnasol” (“relevant service provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru gan Weinidogion Cymru fel darparwr gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol;
term y ddeddf ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
term gradd arolygu ystyr “gradd arolygu” (“inspection rating”) yw’r radd mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol y mae rhaid i Weinidogion Cymru ei rhoi yn unol â rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn;
term gwasanaeth cartref gofal mae i “gwasanaeth cartref gofal” (“care home service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;
term gwasanaeth cymorth cartref mae i “gwasanaeth cymorth cartref” (“domiciliary support service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;
term gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol” (“relevant regulated service”) yw—
gwasanaeth cartref gofal;
gwasanaeth cymorth cartref.