NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4), ac maent yn diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1989 (Cy. 299)) (“y prif Reoliadau”).
Mae’r diwygiadau’n gwneud newidiadau i reoliad 19 o’r prif Reoliadau (sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun) i alluogi cyrff partneriaeth i arfer mwy o hyblygrwydd yn y ffordd y maent yn cyfuno cronfeydd wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â llety cartref gofal i bobl hŷn.
Bydd yn ofynnol o hyd i gyrff partneriaeth gynnal a chyfuno cronfeydd wrth arfer y swyddogaethau hyn, ond ni fydd yn ofynnol mwyach iddynt wneud hynny ar sail ranbarthol (o dan drefniadau gyda’r holl gyrff partneriaeth eraill ar gyfer ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.