ID badges: Hide | Show

Offerynnau Statudol Cymru

2025 Rhif 388 (Cy. 77)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2025

Gwnaed

26 Mawrth 2025

Yn dod i rym

31 Mawrth 2025

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 167(3)(a), (b) a (d), a 196(2)(a) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 196(6)(a) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

(1)

term y ddeddf 2014 dccc 4 (“y Ddeddf”). Gweler adran 197(1) o’r Ddeddf am y diffiniad o “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd”, a “rheoliadau”.

(2)

Mae cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn adran 196(6)(a) o’r Ddeddf bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).