ID badges: Hide | Show

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) a Defnyddiau Bwyd Anifeiliaid a Fwriedir at Ddibenion Maethol Penodol (Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354) (Cymru) 2024

regulation 2 2.—(1Mae Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) a Defnyddiau Bwyd Anifeiliaid a Fwriedir at Ddibenion Maethol Penodol (Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354) (Cymru) 2024(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y testun Saesneg, yn lle “Regulation 767/2009” rhodder “Regulation (EC) No 767/2009”.

(3Yn rheoliad 4(1), yn y testun Cymraeg, yn lle “a Rheoliadau diwygio” rhodder “ac sy’n diwygio Rheoliadau”.

(4Yn rheoliad 13(4), yn y testun Cymraeg, ar ôl “sy’n gymwys” mewnosoder “yn union”.

(5Yn rheoliad 14(3), yn y testun Cymraeg, ar ôl “sy’n gymwys” mewnosoder “yn union”.

(6Yn rheoliad 16(3), yn y testun Cymraeg, ar ôl “sy’n gymwys” mewnosoder “yn union”.

(7Yn Atodlen 8, yn y testun Cymraeg, yn y tabl, yn y rhes ar gyfer “Darpariaethau eraill”, yn yr ail golofn, ym mhwynt 4, yn y pwynt bwled cyntaf, o flaen “essential trace elements” mewnosoder “of”.

(8Yn Atodlen 11, yn y testun Cymraeg, yn y geiriau o flaen y tabl, yn lle “technegol” rhodder “technolegol”.

(9Yn Atodlen 13, yn y testun Cymraeg, yn y tabl, yn y rhes ar gyfer “Darpariaethau eraill”, yn yr ail golofn, ym mhwynt 2, yn lle “Gellir” rhodder “Caniateir”.

(10Yn Atodlen 16, yn y testun Cymraeg, yn y tabl, yn y rhes ar gyfer “Nodweddiad y sylwedd(au) actif”, yn yr ail golofn, yn lle “elfennau” rhodder “cydrannau”.