Offerynnau Statudol Cymru
2025 Rhif 384 (Cy. 76)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) a Defnyddiau Bwyd Anifeiliaid a Fwriedir at Ddibenion Maethol Penodol (Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354) (Cymru) (Diwygio) 2025
Gwnaed
24 Mawrth 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
26 Mawrth 2025
Yn dod i rym
31 Mawrth 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 9(1), 10(5) a 18A(3) o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid(1).
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2).
EUR 2003/1831, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/654, 2022/377 a 1351. Diwygiwyd O.S. 2019/654 gan O.S. 2020/1504. Mae’r termau “prescribe” ac “appropriate authority” wedi eu diffinio yn Erthygl 2 o EUR 2003/1831.
EUR 2002/178, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/641. Diwygiwyd O.S. 2019/641 gan O.S. 2020/1504.