NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r wythfed Gorchymyn Cychwyn sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Mae’n dwyn i rym adran 160(5) o’r Ddeddf ar 31 Mawrth 2025.
Mae adran 160(5) yn rhoi’r pŵer i Ofal Cymdeithasol Cymru i wneud cais i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflenwi gwybodaeth neu gyflwyno dogfennau, y gofynnir amdani neu amdanynt yn unol ag adran 160, pan fo’r naill neu’r llall o’r rhain yn cael ei gadw’n ôl.