Darpariaeth drosiannol
regulation 3 3.—(1) Nid yw’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gwaith yr hysbyswyd amdano yn flaenorol os yw—
regulation 3 1 a (a)wedi dechrau cyn y diwrnod y mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym, neu
regulation 3 1 b (b)yn dechrau o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “gwaith yr hysbyswyd amdano yn flaenorol” yw gwaith adeiladu y mae, mewn cysylltiad ag ef—
regulation 3 2 a (a)hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi ei roi i awdurdod lleol cyn y diwrnod y mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym, neu
regulation 3 2 b (b)planiau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol cyn y diwrnod hwnnw.