ID badges: Hide | Show

Dehongli

regulation 2 2.  Yn y Rheoliadau hyn—

term awdurdod lleol ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

mae i “gwaith adeiladu” yr ystyr a roddir i “building work” gan reoliad 3(1) o’r Rheoliadau Adeiladu;

mae i “hysbysiad adeiladu” yr ystyr a roddir i “building notice” gan reoliad 2 o’r Rheoliadau Adeiladu;

mae i “hysbysiad cychwynnol” yr ystyr a roddir i “initial notice” gan adran 47(1)(a) o Ddeddf Adeiladu 1984;

mae i “planiau llawn” yr ystyr a roddir i “full plans” gan reoliad 2 o’r Rheoliadau Adeiladu;

term rheoliadau adeiladu ystyr “Rheoliadau Adeiladu” (“Building Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 2010(1);

term rheoliadau cymeradwywyr ystyr “Rheoliadau Cymeradwywyr” (“Approvers Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024(2).

(1)

O.S. 2010/2214, fel y’i diwygiwyd mewn perthynas ag adeiladau yng Nghymru gan O.S. 2013/747 (Cy. 89), O.S. 2016/361 (Cy. 113), O.S. 2016/490, O.S. 2016/611 (Cy. 168), O.S. 2018/558 (Cy. 97) ac O.S. 2022/993 (Cy. 210). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 2024/1268. Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (O.S. 2010/2215) o ran Cymru.