Offerynnau Statudol Cymru
2025 Rhif 377 (Cy. 74)
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2025
Gwnaed
21 Mawrth 2025
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
25 Mawrth2025
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2025
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt(1) gan adrannau 1, 3(1), 34 a 47(1) o Ddeddf Adeiladu 1984(2) a pharagraffau 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu ac ag unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol, yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984(3).
term gorchymyn 2009 Cafodd y swyddogaethau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 3(1), 34 a 47(1) o Ddeddf Adeiladu 1984 (p.55), a pharagraffau 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019) (“Gorchymyn 2009”) a chan adran 54 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).
term deddf 2022 term deddf 2004 Diwygiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 (p. 22) (“Deddf 2004”), a chan baragraff 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (p. 30) (“Deddf 2022”). Diwygiwyd adran 47(1) gan adran 8(2) o Ddeddf 2004. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mae offerynnau diwygio mewn perthynas â pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 1 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Amnewidiwyd paragraff 10 o Atodlen 1 gan baragraff 83(8) o Atodlen 5 i Ddeddf 2022. Ar gyfer y diffiniadau o “appropriate national authority” a “prescribed” gweler adran 126 o Ddeddf Adeiladu 1984.
Diwygiwyd adran 14(7) gan Orchymyn 2009, a chan baragraff 17(3) o Atodlen 5 i Ddeddf 2022.