RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW
Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir i blant
9Gwasanaethau plant o dan gyfyngiad: yr wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr o ddarparwyr gwasanaethau
Yn Neddf 2016, yn adran 38—
section 9 a (a)yn is-adran (2)—
section 9 a i (i)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)a yw unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau hynny yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad;”;
section 9 a ii (ii)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)yn achos darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad—
(i)bod cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1), a
(ii)bod yr amod yn adran 7(3)(aa) wedi ei osod ar gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw;”;
section 9 b (b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Gweler hefyd Atodlen 1A, mewn cysylltiad â chofrestriad darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad nad yw’n ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1) yn ystod y cyfnod trosiannol a ddiffinnir yn yr Atodlen honno.”