ID badges: Hide | Show

RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW

Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir i blant

7Darparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad: yr wybodaeth a gynhwysir mewn datganiad blynyddol

Yn Neddf 2016, yn adran 10—

section 7 a (a)yn is-adran (2)(a), ar ôl paragraff (viii) mewnosoder—

(viiia)unrhyw wybodaeth a ragnodir am dystiolaeth sy’n berthnasol i’r prawf person addas a phriodol;;

section 7 b (b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Yn achos darparwr gwasanaeth, ac eithrio awdurdod lleol, sy’n darparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i ddatganiad hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y darparwr yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).

(2B)Ond nid yw is-adran (2A) yn gymwys mewn cysylltiad â darparwr nad yw adran 6A yn gymwys iddo yn rhinwedd paragraff 2(4) o Atodlen 1A.;

section 7 c (c)yn is-adran (6)—

section 7 c i (i)ym mharagraff (b), ar y diwedd hepgorer “neu”;

section 7 c ii (ii)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2)(a)(viiia),;

section 7 c iii (iii)ym mharagraff (c), ar y diwedd mewnosoder “neu”;

section 7 c iv (iv)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan is-adran (2A),.