RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW
Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir i blant
4Cofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad: trefniadau trosiannol
section 4 1 (1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
section 4 2 (2)Ar ôl adran 6B (fel y’i mewnosodir gan adran 3) mewnosoder—
“6CCofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad: trefniadau trosiannol
Mae Atodlen 1A yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol mewn cysylltiad â darparwyr gwasanaethau a gofrestrwyd cyn i adran 6A(1) ddod i rym.”
section 4 3 (3)Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder—
(fel y’i cyflwynir gan adran 6C)
“ATODLEN 1AGWASANAETHAU PLANT O DAN GYFYNGIAD: TREFNIADAU COFRESTRU TROSIANNOL AR GYFER DARPARWYR GWASANAETHAU PRESENNOL
Y cyfnod trosiannol mewn cysylltiad â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad
1(1)Yn yr Atodlen hon, mewn perthynas â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, mae cyfeiriadau at y cyfnod trosiannol yn gyfeiriadau at y cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r gwasanaeth yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad yn rhinwedd dyfodiad adran 6A(1) i rym mewn perthynas â’r gwasanaeth, a
(b)sy’n gorffen â’r diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau at ddibenion y paragraff hwn.
(2)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-baragraff (1)(b) bennu diwrnodau gwahanol ar gyfer—
(a)mathau gwahanol o wasanaeth plant o dan gyfyngiad;
(b)disgrifiadau gwahanol o ddarparwr gwasanaeth (er enghraifft, darparwyr gwasanaethau sy’n arbenigo mewn darparu math penodol o wasanaeth plant o dan gyfyngiad).
(3)Ond nid yw is-baragraff (2) yn cyfyngu ar gymhwyso adran 187 mewn perthynas â rheoliadau a wneir o dan is-baragraff (1)(b).
(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (1)(b) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
Darparwyr gwasanaethau presennol: esemptiad rhag adran 6A(1)
2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth, ac eithrio awdurdod lleol, sydd wedi ei gofrestru—
(a)mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref plant, pan fo’r cyfnod trosiannol yn dechrau mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw;
(b)mewn cysylltiad â gwasanaeth maethu, pan fo’r cyfnod trosiannol yn dechrau mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw;
(c)mewn cysylltiad â gwasanaeth llety diogel, pan fo’r cyfnod trosiannol yn dechrau mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.
(2)Ac mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth o’r fath yn ystod y cyfnod trosiannol.
(3)Yn yr Atodlen hon, mewn perthynas â darparwr, mae cyfeiriadau at y gwasanaeth presennol yn gyfeiriadau at y gwasanaeth y mae’r darparwr wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef fel y’i disgrifir yn is-baragraff (1).
(4)I’r graddau y mae darparwr gwasanaeth y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol—
(a)nid yw cofrestriad y darparwr yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1) (ac mae unrhyw gyfeiriad at y gofyniad hwnnw i’w ddarllen yn unol â hynny), a
(b)(o ganlyniad) rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r darparwr ddangos—
(i)nad yw cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1), a
(ii)nad yw’r amod yn adran 7(3)(aa) wedi ei osod ar gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.
(5)Ond nid yw is-baragraff (4) yn gymwys at ddibenion cais a wneir gan y darparwr gwasanaeth—
(a)mewn perthynas â’r gwasanaeth presennol, o dan adran 11(1)(a)(ii);
(b)mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaeth arall, o dan adran 11(1)(a)(i).
Rheoliadau ynghylch darparu gwasanaethau plant o dan gyfyngiad gan ddarparwyr gwasanaethau presennol
3(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth sy’n gosod amodau ar ddarparwr gwasanaeth y mae paragraff 2 yn gymwys iddo.
(2)Caiff amodau a osodir gan reoliadau o dan is-baragraff (1) gynnwys—
(a)cyfyngiadau ar y math o wasanaeth plant o dan gyfyngiad y caiff y darparwr gwasanaeth ei ddarparu;
(b)cyfyngiadau ar y disgrifiad o blant sy’n derbyn gofal y caiff y darparwr ddarparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad mewn cysylltiad â hwy, er enghraifft drwy gyfeirio at eu hanghenion gofal a chymorth.
(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys—
(a)pan fo darparwr gwasanaeth yn methu â chydymffurfio ag amodau a osodir gan reoliadau o dan is-baragraff (1), neu
(b)yn achos darparwr gwasanaeth a ddisgrifir ym mharagraff 2(1)(b), pan fo’r darparwr yn methu â chydymffurfio â rheoliadau a wneir o dan adran 87 o Ddeddf 2014.
(4)Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)arfer eu swyddogaethau o dan adran 13 i amrywio cofrestriad y darparwr drwy ddileu’r gwasanaeth neu ddileu man y mae’r gwasanaeth presennol yn cael ei ddarparu ynddo, neu
(b)arfer eu swyddogaethau o dan adran 15 i ganslo cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol.
(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
Darparwyr gwasanaethau presennol: cais i amrywio cofrestriad
4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn cysylltiad â darparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth presennol.
(2)Er gwaethaf paragraff 2(4), caiff darparwr gwasanaeth y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol fod yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1).
(3)Ond pan fo darparwr gwasanaeth y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwneud cais o dan adran 11(1)(a)(i) neu (ii) mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad ac nad hwnnw yw’r gwasanaeth presennol, rhaid i’r darparwr wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol fod yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1).
(4)Rhaid i gais o dan y paragraff hwn—
(a)cynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y person yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1), a
(b)bod ar y ffurf ragnodedig.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais o dan y paragraff hwn os ydynt wedi eu bodloni—
(a)bod y cais—
(i)yn cynnwys popeth sy’n ofynnol o dan is-baragraff (4)(a), a
(ii)yn bodloni’r gofynion a ragnodir o dan is-baragraff (4)(b), a
(b)bod y darparwr yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).
(6)Mewn unrhyw achos arall rhaid i Weinidogion Cymru wrthod y cais.
(7)Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais o dan is-baragraff (5), rhaid i Weinidogion Cymru, i’r graddau y mae’r darparwr wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol—
(a)gosod yr amod yn adran 7(3)(aa) ar gofrestriad y darparwr;
(b)dangos yn y gofrestr—
(i)bod cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth presennol yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1), a
(ii)bod yr amod yn adran 7(3)(aa) wedi ei osod ar gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.
(8)Pan fo amrywiad o dan y paragraff hwn yn cymryd effaith, nid yw paragraffau 2(4) a 3 yn gymwys i’r darparwr gwasanaeth.
(9)Nid yw amrywiad o dan y paragraff hwn yn cymryd effaith ond os yw gofynion adran 18 i 20 wedi eu bodloni (i’r graddau y maent yn gymwys).
Dehongli
5Yn yr Atodlen hon—
(a)ystyr “plant sy’n derbyn gofal” yw plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol fel y’u disgrifir yn adran 74(1) o Ddeddf 2014;
(b)mae cyfeiriadau at y “cofrestr yn gyfeiriadau at y gofrestr a gynhelir o dan adran 38 o’r Ddeddf hon.”
section 4 4 (4)Yn adran 45, ar ôl “adran 27 neu 37(2)(a)” mewnosoder “neu o dan baragraff 3(1) o Atodlen 1A”.