RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW
Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir i blant
3Ceisiadau i gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad
section 3 1 (1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
section 3 2 (2)Yn adran 6, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Yn achos person, ac eithrio awdurdod lleol, sy’n dymuno darparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i’r cais hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth a ragnodir er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y person yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).”
section 3 3 (3)Ar ôl adran 6 mewnosoder—
“6ACofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad
(1)Er mwyn cael ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i berson nad yw’n awdurdod lleol fod yn endid nid-er-elw.
(2)At ddibenion y Rhan hon, mae “endid nid-er-elw” yn berson sy’n bodloni amodau 1 a 2 yn is-adrannau (3) a (4).
(3)Amod 1 yw bod amcanion neu ddibenion y person yn ymwneud yn anad dim â’r canlynol—
(a)lles plant, neu
(b)unrhyw fudd cyhoeddus arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru.
(4)Amod 2 yw bod y person yn un o’r mathau o ymgymeriad a ganlyn (fel y’u diffinnir yn adran 6B)—
(a)cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau,
(b)sefydliad elusennol corfforedig,
(c)cymdeithas gofrestredig elusennol, neu
(d)cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau.
6BCofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad: diffiniadau
(1)Mae’r diffiniadau a ganlyn yn gymwys at ddibenion adran 6A(4).
(2)Mae “cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau” yn gwmni—
(a)sydd wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46) yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon,
(b)y mae ei atebolrwydd yn gyfyngedig drwy warant ac nad oes ganddo gyfalaf cyfrannau, ac
(c)sy’n elusen a gofrestrwyd o dan un neu ragor o’r canlynol—
(i)Deddf Elusennau 2011 (p. 25);
(ii)Deddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005 (dsa 10);
(iii)Deddf Elusennau (Gogledd Iwerddon) 2008 (p. 12).
(3)Mae “sefydliad elusennol corfforedig” yn sefydliad a gofrestrwyd o dan—
(a)adran 209, 232 neu 238 o Ddeddf Elusennau 2011 neu reoliadau a wneir o dan adran 234 o’r Ddeddf honno,
(b)adran 55, 58 neu 60 o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005, neu
(c)adran 111, 114 neu 117 o Ddeddf Elusennau (Gogledd Iwerddon) 2008 neu reoliadau a wneir o dan adran 115 o’r Ddeddf honno.
(4)Mae “cymdeithas gofrestredig elusennol” yn—
(a)cymdeithas—
(i)sy’n “cymdeithas gofrestredig” o fewn yr ystyr a roddir i “registered society” gan adran 1(1) o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (p. 14), a
(ii)sy’n elusen o fewn ystyr adran 1(1) o Ddeddf Elusennau 2011,
(b)cymdeithas—
(i)sy’n “cymdeithas gofrestredig” o fewn yr ystyr a roddir i “registered society” gan adran 1(1) o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, a
(ii)sy’n elusen a gofrestrwyd o dan Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005, neu
(c)cymdeithas—
(i)sy’n “cymdeithas gofrestredig” o fewn yr ystyr a roddir i “registered society” gan adran 1A(1) o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol (Gogledd Iwerddon) 1969 (p. 24), a
(ii)sy’n elusen a gofrestrwyd o dan Ddeddf Elusennau (Gogledd Iwerddon) 2008.
(5)Mae “cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau” yn gwmni—
(a)sydd wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon,
(b)y mae ei atebolrwydd yn gyfyngedig drwy warant ac nad oes ganddo gyfalaf cyfrannau, ac
(c)sy’n gwmni buddiant cymunedol o dan Ran 2 o Ddeddf Cwmnïau (Archwilio, Ymchwiliadau a Menter Gymunedol) 2004 (p. 27).
(6)Yn is-adrannau (2) a (5)—
(a)mae i gyfeiriadau at fod atebolrwydd cwmni yn “cyfyngedig drwy warant” yr ystyr a roddir i “limited by guarantee” gan adran 3(3) o Ddeddf Cwmnïau 2006, a
(b)nid oes gan gwmni gyfalaf cyfrannau os nad oes ganddo bŵer o dan ei gyfansoddiad i ddyroddi cyfrannau.”