RHAN 2GOFAL IECHYD
23Trosolwg o Ran 2
section 23 1 (1)term deddf 2006 Mae adrannau 24 a 25 yn gwneud darpariaeth ar gyfer caniatáu gwneud taliadau yn uniongyrchol i glaf neu berson a enwebir gan y claf er mwyn i’r claf sicrhau gwasanaethau neu nwyddau y mae rhaid, neu y caniateir, eu darparu fel arall o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) (“Deddf 2006”) neu o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20), ac mewn cysylltiad â chaniatáu gwneud taliadau o’r fath.
section 23 2 (2)Mae adran 26 yn diwygio adran 47 o Ddeddf 2014 er mwyn darparu na chaiff awdurdod lleol ond darparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau neu gyfleusterau y mae’n ofynnol eu darparu o dan ddeddfiadau iechyd penodol—
section 23 2 a (a)os byddai darparu’r gwasanaethau neu’r cyfleusterau’n gysylltiedig â gwasanaethau gofal a chymorth penodol y caiff yr awdurdod lleol eu darparu, neu y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu darparu, o dan Ddeddf 2014, neu os byddai’n ategol at y gwasanaethau gofal a chymorth penodol hynny, a
section 23 2 b (b)os ydynt o natur y gellir disgwyl i’r awdurdod lleol eu darparu.