RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2DIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL, GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL A SWYDDOGAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL
Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol
20Taliadau uniongyrchol ym maes gofal cymdeithasol
section 20 1 (1)Mae is-adran (2) yn diwygio Deddf 2014 er mwyn ychwanegu at y ffyrdd y mae awdurdod lleol yn gallu gwneud taliadau yn uniongyrchol i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth o dan adrannau 35 i 40, 42 a 45 o’r Ddeddf honno, neu mewn cysylltiad â gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20), a hynny drwy ddarparu y gellir gwneud taliadau o’r fath i berson sydd wedi ei enwebu gan y person y gellid fel arall fod wedi gwneud y taliad iddo.
section 20 2 (2)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
section 20 2 a (a)ar ôl y croesbennawd sy’n dod o flaen adran 50 mewnosoder—
“49ATaliadau uniongyrchol
(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion—
(a)oedolyn (“A”), o dan adran 35 neu 36;
(b)plentyn (“C”), o dan adran 37, 38 neu 39;
(c)gofalwr (“R”), o dan adran 40, 42 neu 45.
(2)Ond ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol bod taliadau o’r fath yn cael eu gwneud na chaniatáu hynny oni bai—
(a)pan fo’r taliadau i’w gwneud i ddiwallu anghenion oedolyn o dan adran 35 neu 36, y bodlonir amod 1, 2 neu 3 yn adran 50;
(b)pan fo’r taliadau i’w gwneud i ddiwallu anghenion plentyn o dan adran 37, 38 neu 39, y bodlonir amod 1 neu 2 yn adran 51;
(c)pan fo’r taliadau i’w gwneud i ddiwallu anghenion gofalwr o dan adran 40, 42 neu 45, y bodlonir amod 1 neu 2 yn adran 52.
(3)Cyfeirir at daliad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol.”;
section 20 2 b (b)yn lle adrannau 50 i 52 rhodder—
“50Taliadau uniongyrchol: yr amodau ar gyfer taliad i ddiwallu anghenion oedolyn
(1)Mae’r amodau y cyfeirir atynt yn adran 49A(2)(a) mewn perthynas â gwneud taliadau uniongyrchol tuag at y gost o ddiwallu anghenion oedolyn (“A”) o dan adran 35 neu 36 fel a ganlyn.
(2)Amod 1 yw—
(a)bod y taliadau i’w gwneud i A,
(b)bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan A alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A, a
(ii)bod gan A allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(d)bod A wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.
(3)Amod 2 yw—
(a)bod y taliadau i’w gwneud i berson ar wahân i A (“B”),
(b)bod yr awdurdod lleol yn credu nad oes gan A alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)bod B yn berson addas,
(d)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A,
(ii)bod gan B allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(iii)y bydd B yn gweithredu er lles pennaf A wrth reoli’r taliadau, ac
(e)bod y cydsyniad angenrheidiol wedi ei gael i wneud y taliadau i B.
(4)Amod 3 yw—
(a)bod y taliadau i’w gwneud i berson a enwebir gan A (“N”),
(b)bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan A alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A, a
(ii)bod gan N allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo),
(d)bod A wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud, ac
(e)bod N wedi cydsynio i gael y taliadau.
(5)At ddibenion is-adran (3)(c), mae B yn “berson addas”—
(a)os yw B wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth,
(b)pan na fo B wedi ei awdurdodi fel y crybwyllwyd ym mharagraff (a), os yw person sydd wedi ei awdurdodi felly yn cytuno â’r awdurdod lleol fod B yn addas i gael taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth, neu
(c)pan na fo B wedi ei awdurdodi fel y crybwyllwyd ym mharagraff (a) ac nad oes unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi felly, os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod B yn addas i gael taliadau o’r math hwnnw.
(6)At ddibenion is-adran (3)(e), ystyr “cydsyniad angenrheidiol” yw—
(a)cydsyniad B, a
(b)pan fo B yn berson addas yn rhinwedd is-adran (5)(b), cydsyniad person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth.
51Taliadau uniongyrchol: yr amodau ar gyfer taliad i ddiwallu anghenion plentyn
(1)Mae’r amodau y cyfeirir atynt yn adran 49A(2)(b) mewn perthynas â gwneud taliadau uniongyrchol tuag at y gost o ddiwallu anghenion plentyn (“C”) o dan adran 37, 38 neu 39 fel a ganlyn.
(2)Amod 1 yw—
(a)bod y taliadau i’w gwneud i berson (“P”) sef—
(i)C, neu
(ii)person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros C,
(b)pan fo P—
(i)yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan P alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud;
(ii)yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan P ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio i gael y taliadau,
(c)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion C,
(ii)y caiff llesiant C ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy i’r taliadau gael eu gwneud, a
(iii)bod gan P allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(d)bod P wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.
(3)Amod 2 yw—
(a)bod y taliadau i’w gwneud i berson a enwebir gan P (“N”),
(b)pan fo P—
(i)yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan P alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud;
(ii)yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan P ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion C,
(ii)y caiff llesiant C ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy i’r taliadau gael eu gwneud,
(iii)y bydd N yn gweithredu er lles pennaf C wrth reoli’r taliadau, a
(iv)bod gan N allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo),
(d)bod P wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud, ac
(e)bod N wedi cydsynio i gael y taliadau.
52Taliadau uniongyrchol: yr amodau ar gyfer taliad i ddiwallu anghenion gofalwr
(1)Mae’r amodau y cyfeirir atynt yn adran 49A(2)(c) mewn perthynas â gwneud taliadau uniongyrchol tuag at y gost o ddiwallu anghenion gofalwr (“R”) o dan adran 40, 42 neu 45 fel a ganlyn.
(2)Amod 1 yw—
(a)bod y taliadau i’w gwneud i R,
(b)pan fo R—
(i)yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan R alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud;
(ii)yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan R ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio i gael y taliadau,
(c)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion R, a
(ii)bod gan R allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(d)bod R wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.
(3)Amod 2 yw—
(a)bod y taliadau i’w gwneud i berson a enwebir gan R (“N”),
(b)pan fo R—
(i)yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan R alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud;
(ii)yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan R ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion R,
(ii)pan fo R yn blentyn o dan 16 oed, y bydd N yn gweithredu er lles pennaf R wrth reoli’r taliadau, a
(iii)bod gan N allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo),
(d)bod R wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud, ac
(e)bod N wedi cydsynio i gael y taliadau.”;
section 20 2 c (c)ar ôl adran 53 mewnosoder—
“53ATaliadau uniongyrchol: ôl-ofal o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
Mae’r ffyrdd y caiff awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn cynnwys drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac at y diben hwnnw mae Atodlen A1 yn cael effaith.”;
section 20 2 d (d)yn lle Atodlen A1 rhodder—
(fel y’i cyflwynir gan adran 53A)
“ATODLEN A1TALIADAU UNIONGYRCHOL: ÔL-OFAL O DAN DDEDDF IECHYD MEDDWL 1983
Cyffredinol
1Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau mewn cysylltiad â pherson y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer y person o dan yr adran honno.
2Ond ni chaiff rheoliadau o dan baragraff 1 ei gwneud yn ofynnol bod taliadau o’r fath yn cael eu gwneud na chaniatáu hynny oni bai—
(a)pan fo’r taliad yn cael ei wneud mewn cysylltiad ag oedolyn, y bodlonir amod 1, 2 neu 3 ym mharagraff 4;
(b)pan fo’r taliad yn cael ei wneud mewn cysylltiad â phlentyn, y bodlonir amod 4 neu 5 ym mharagraff 5.
3Cyfeirir at daliad o dan yr Atodlen hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol”.
Taliadau uniongyrchol: gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer oedolyn
4(1)Mae’r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(a) mewn perthynas â gwneud taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad ag oedolyn (“A”) y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer A o dan yr adran honno fel a ganlyn.
(2)Amod 1 yw—
(a)bod y taliadau i’w gwneud i A,
(b)bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan A alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a
(ii)bod gan A allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(d)bod A wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.
(3)Amod 2 yw—
(a)bod y taliadau i’w gwneud i berson ar wahân i A (“B”),
(b)bod yr awdurdod lleol yn credu nad oes gan A alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)bod B yn berson addas,
(d)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,
(ii)bod gan B allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(iii)y bydd B yn gweithredu er lles pennaf A wrth reoli’r taliadau, ac
(e)bod y cydsyniad angenrheidiol wedi ei gael i wneud y taliadau i B.
(4)Amod 3 yw—
(a)bod y taliadau i’w gwneud i berson a enwebir gan A (“N”),
(b)bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan A alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,
(c)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a
(ii)bod gan N allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo),
(d)bod A wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud, ac
(e)bod N wedi cydsynio i gael y taliadau.
(5)At ddibenion is-baragraff (3)(c), mae B yn “berson addas”—
(a)os yw B wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch darparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,
(b)pan na fo B wedi ei awdurdodi fel y crybwyllwyd ym mharagraff (a), os yw person sydd wedi ei awdurdodi felly yn cytuno â’r awdurdod lleol fod B yn addas i gael y taliadau, neu
(c)pan na fo B wedi ei awdurdodi fel y crybwyllwyd ym mharagraff (a) ac nad oes unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi felly, os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod B yn addas i gael taliadau o’r math hwnnw.
(6)At ddibenion is-adran (3)(e), ystyr “cydsyniad angenrheidiol” yw—
(a)cydsyniad B, a
(b)pan fo B yn berson addas yn rhinwedd is-baragraff (5)(b), cydsyniad person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch darparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Taliadau uniongyrchol: gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer plentyn
5(1)Mae’r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(b) mewn perthynas â gwneud taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â phlentyn (“C”) y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer C o dan yr adran honno fel a ganlyn.
(2)Amod 1 yw—
(a)bod y taliadau i’w gwneud i berson (“P”) sef—
(i)C, neu
(ii)person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros C,
(b)pan fo P—
(i)yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan P alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud;
(ii)yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan P ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio i gael y taliadau,
(c)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o gyflawni ei ddyletswydd tuag at C o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,
(ii)y caiff llesiant C ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy i’r taliadau gael eu gwneud, a
(iii)bod gan P allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo), a
(d)bod P wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.
(3)Amod 2 yw—
(a)bod y taliadau i’w gwneud i berson a enwebir gan P (“N”),
(b)pan fo P—
(i)yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod yr awdurdod lleol yn credu bod gan P alluedd i gydsynio bod taliadau’n cael eu gwneud;
(ii)yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan P ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cydsynio bod taliadau’n cael eu gwneud,
(c)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o gyflawni ei ddyletswydd tuag at C o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,
(ii)y caiff llesiant C ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy i’r taliadau gael eu gwneud,
(iii)y bydd N yn gweithredu er lles pennaf C wrth reoli’r taliadau, a
(iv)bod gan N allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael iddo),
(d)bod P wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud, ac
(e)bod N wedi cydsynio i gael y taliadau.
Darpariaeth bellach ar gyfer taliadau uniongyrchol: ôl-ofal
6Caiff rheoliadau o dan yr Atodlen hon hefyd wneud darpariaeth, yn benodol, ynghylch y canlynol—
(a)materion y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, roi sylw iddynt wrth wneud penderfyniad o fath penodedig ynghylch taliadau uniongyrchol;
(b)amodau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, eu gosod a’r amodau na chaniateir iddo eu gosod, mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol;
(c)camau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, eu cymryd cyn, neu ar ôl, gwneud penderfyniad o fath penodedig ynghylch taliadau uniongyrchol;
(d)cymorth y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei ddarparu neu ei drefnu ar gyfer personau y mae’n gwneud taliadau uniongyrchol iddynt;
(e)achosion neu amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol weithredu fel asiant ar ran person y mae taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud iddo;
(f)amodau y cyflawnir odanynt ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y cyflawnir y ddyletswydd honno drwy wneud taliadau uniongyrchol;
(g)achosion neu amgylchiadau lle na chaiff awdurdod lleol wneud, neu lle y caniateir iddo beidio â gwneud, taliadau i berson neu mewn perthynas â pherson;
(h)achosion neu amgylchiadau lle y mae’n rhaid i berson, neu lle y caiff person, nad yw bellach heb alluedd, neu y mae’r awdurdod lleol yn credu nad yw’r person hwnnw bellach heb alluedd, i gydsynio bod taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud, gael ei drin, serch hynny, at ddibenion paragraffau 4 a 5 fel pe na bai ganddo’r galluedd i wneud hynny;
(i)achosion neu amgylchiadau lle y caiff, neu y mae’n rhaid i, awdurdod lleol sy’n gwneud taliadau uniongyrchol adolygu’r arfer o wneud y taliadau hynny;
(j)achosion neu amgylchiadau lle y caiff, neu y mae’n rhaid i, awdurdod lleol sy’n gwneud taliadau uniongyrchol—
(i)terfynu’r arfer o wneud y taliadau hynny;
(ii)ei gwneud yn ofynnol i’r cyfan neu ran o daliad uniongyrchol gael ei ad-dalu;
(k)adennill unrhyw swm sy’n ddyledus i awdurdod lleol mewn cysylltiad â gwneud taliadau uniongyrchol.
7Rhaid i reoliadau o dan yr Atodlen hon bennu bod rhaid i daliadau uniongyrchol i dalu’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) gael eu gwneud ar raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn cael eu darparu i ddiwallu’r anghenion hynny.
8Caiff person y mae awdurdod lleol yn gwneud taliad uniongyrchol iddo, yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan yr Atodlen hon, ddefnyddio’r taliad i brynu gwasanaethau ôl-ofal gan unrhyw berson (gan gynnwys, ymhlith eraill, yr awdurdod a wnaeth y taliad).”