RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2DIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL, GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL A SWYDDOGAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL
Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol: gwybodaeth, arolygiadau ac ymchwiliadau
17Gwybodaeth, arolygiadau ac ymchwiliadau
section 17 1 (1)Mae’r adran hon yn diwygio Pennod 3 o Ddeddf 2016 i wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â phwerau Gweinidogion Cymru i gynnal arolygiadau ac i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu, gan gynnwys mewn cysylltiad ag ymchwilio i droseddau.
section 17 2 (2)Yn adran 32 o Ddeddf 2016—
section 17 2 a (a)yn is-adran (1)—
section 17 2 a i (i)yn lle “Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu unrhyw wybodaeth iddynt” rhodder “Mae is-adrannau (1A) ac (1B) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y gall fod gan berson perthnasol wybodaeth”;
section 17 2 a ii (ii)yn y testun Saesneg, ar ôl “think” mewnosoder “it”;
section 17 2 b (b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad i berson perthnasol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—
(a)cyflwyno unrhyw ddogfennau—
(i)a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sy’n dod o fewn categori o ddogfen a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, a
(ii)sydd ym meddiant y person neu o dan reolaeth y person, a
(b)cyflwyno’r dogfennau mewn modd a bennir yn yr hysbysiad.
(1B)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad i berson perthnasol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—
(a)ateb unrhyw gwestiwn—
(i)sydd wedi ei ofyn yn yr hysbysiad, a
(ii)y mae’r ateb iddo yn hysbys i’r person, a
(b)ateb mewn modd a bennir yn yr hysbysiad.”
section 17 2 c (c)yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “os” hyd at y diwedd rhodder “—
(a)os yw datgelu’r wybodaeth honno wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall;
(b)pe bai gan y person hawlogaeth i wrthod datgelu’r wybodaeth mewn achos yn yr Uchel Lys ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.”
section 17 2 d (d)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth gan eu bod yn amau bod trosedd yn cael ei chyflawni neu fod trosedd wedi ei chyflawni—
(a)ni chânt ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu ond os oes ganddynt sail resymol dros amau hynny;
(b)rhaid iddynt hysbysu’r person, yn ysgrifenedig, at ba ddiben y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu.
(6)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at “darparwr gwasanaeth” yn cynnwys person y mae Gweinidogion Cymru yn amau’n rhesymol—
(a)ei fod yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man nad yw’r person hwnnw wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan adran 7, neu
(b)ei fod wedi darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man nad oedd y person hwnnw wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan adran 7.”
section 17 3 (3)Ar ôl adran 32 mewnosoder—
“32ABraint yn erbyn hunanargyhuddo
(1)Ni chaniateir i wybodaeth a roddir gan berson (“P”) mewn ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 32(1B) gael ei defnyddio mewn achos troseddol yn erbyn P.
(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys—
(a)os yw’r achos am drosedd o dan adran 5 o Ddeddf Anudon 1911 (p. 6) (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw);
(b)yn ystod yr achos—
(i)os dygir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan P, neu ar ei ran, neu
(ii)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan P, neu ar ei ran.”
section 17 4 (4)Yn adran 33—
section 17 4 a (a)yn is-adran (1)(b), yn lle “o drefniadaeth a chydgysylltiad gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth” rhodder “o’r ffordd y mae gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth yn cael eu trefnu, eu rheoli neu eu cydgysylltu”;
section 17 4 b (b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Yn y Rhan hon mae cyfeiriad at “ymchwiliad yn gyfeiriad at ymchwiliad ynghylch a yw person yn cyflawni neu wedi cyflawni trosedd o dan y Rhan hon.”;
section 17 4 c (c)yn is-adran (2), ar y diwedd mewnosoder “neu ymchwiliad”.
section 17 5 (5)Yn adran 34—
section 17 5 a (a)yn is-adran (1)—
section 17 5 a i (i)ar ôl “arolygiad” mewnosoder “neu ymchwiliad”;
section 17 5 a ii (ii)yn lle “ac arolygu” rhodder “i”;
section 17 5 b (b)yn is-adran (2), yn lle “ac arolygu mangre” rhodder “i fangre”;
section 17 5 c (c)yn is-adran (3), ar ôl “arolygiad” mewnosoder “neu ymchwiliad”;
section 17 5 d (d)yn is-adran (4), ar y dechrau mewnosoder “Wrth gynnal arolygiad neu ymchwiliad,”.
section 17 6 (6)Yn adran 35—
section 17 6 a (a)yn is-adran (1)—
section 17 6 a i (i)ar ôl “arolygiad” mewnosoder “neu ymchwiliad”;
section 17 6 a ii (ii)hepgorer “yn breifat”.
section 17 6 b (b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Caniateir i arolygydd ei gwneud yn ofynnol i gyfweliad o dan is-adran (1) gael ei gynnal yn breifat.”;
section 17 6 c (c)yn is-adran (2), yn lle’r geiriau “ni chaiff” hyd at y diwedd rhodder “o ran arolygydd—
(a)ni chaiff gyf-weld â pherson sy’n dod o fewn is-adran (3) heb gydsyniad y person, a
(b)ni chaiff gyf-weld â pherson (“P”) at ddibenion holi a yw P wedi cyflawni trosedd oni bai—
(i)bod P wedi cael ei hysbysu am ddiben y cyfweliad;
(ii)y rhoddir y cyfle i P i gael cynrychiolaeth gyfreithiol.”
section 17 6 d (d)yn is-adran (4), ar ôl “Caiff arolygydd” mewnosoder “, at ddibenion cynnal arolygiad,”.
section 17 7 (7)Yn adran 36—
section 17 7 a (a)yn is-adran (2), ar ôl “adroddiad” mewnosoder “, i’r graddau a ystyrir yn gymesur gan Weinidogion Cymru,”;
section 17 7 b (b)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(3A)Ond nid yw gofyniad yn is-adran (3) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyflawni’r gofyniad yn amhriodol gan roi sylw i fudd pennaf person y mae ei ofal a’i gymorth wedi eu hasesu yn yr adroddiad.”