ID badges: Hide | Show

RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2DIWYGIADAU AMRYWIOL MEWN PERTHYNAS Â GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL, GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL A SWYDDOGAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL AWDURDODAU LLEOL

Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol: cofrestru etc. darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol

14Dyletswydd i gyflwyno a chyhoeddi datganiad blynyddol

section 14 1 (1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn diwygio Deddf 2016—

section 14 1 a (a)i newid y gofyniad yn adran 10 i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad blynyddol a gyflwynir gan ddarparwr gwasanaeth yn ofyniad bod rhaid i’r darparwr gwasanaeth gyhoeddi datganiad o’r fath a rhoi copïau ohono ar gael ar gais, a

section 14 1 b (b)i wneud methiant i gyhoeddi datganiad blynyddol yn drosedd.

section 14 2 (2)Yn adran 10 o Ddeddf 2016—

section 14 2 a (a)yn is-adran (1), yn lle’r geiriau o “gyflwyno” hyd at y diwedd rhodder , ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol y mae’r darparwr wedi ei gofrestru ynddi—

(a)cyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru;

(b)cyhoeddi’r datganiad hwnnw ar ei wefan.;

section 14 2 b (b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Rhaid i ddarparwr gwasanaeth roi ar gael, ar gais, gopi o ddatganiad blynyddol sydd wedi ei gyhoeddi ar ei wefan.;

section 14 2 c (c)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Rhaid cyhoeddi datganiad blynyddol o fewn y terfyn amser rhagnodedig.

(4B)Ond os yw datgelu gwybodaeth a gynhwysir yn y datganiad blynyddol wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall, rhaid cuddio’r wybodaeth honno yn y datganiad blynyddol cyn ei gyhoeddi.;

section 14 2 d (d)hepgorer is-adran (5).

section 14 3 (3)Yn adran 48 o Ddeddf 2016—

section 14 3 a (a)yn y pennawd, ar ôl “gyflwyno” mewnosoder “neu gyhoeddi”;

section 14 3 b (b)yn lle’r geiriau o “fethu” hyd at y diwedd rhodder

(a)methu â chyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a ragnodir o dan adran 10(4), neu

(b)methu â chyhoeddi datganiad blynyddol ar ei wefan o fewn y terfyn amser a ragnodir o dan adran 10(4A).