ID badges: Hide | Show

RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW

Swyddogaethau awdurdod lleol mewn cysylltiad â llety ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

13Y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya

section 13 1 (1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

section 13 2 (2)Yn adran 81—

section 13 2 a (a)yn is-adran (2), yn lle “is-adrannau (4) ac (11)” rhodder “is-adran (4) ac adran 81C(1) a (2)”;

section 13 2 b (b)yn is-adran (5), yn lle’r geiriau o “leoli” hyd at y diwedd rhodder “wneud trefniadau ar gyfer C yn unol ag adran 81A(2), ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 81C(1) a (2)”;

section 13 2 c (c)hepgorer is-adrannau (6) i (13).

section 13 3 (3)Ar ôl adran 81 mewnosoder—

81AY ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal: lleoliadau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol, yn rhinwedd adran 81(5), leoli plentyn y mae’n gofalu amdano (“C”) mewn llety.

(2)Pan fo’r adran hon yn gymwys, yn ddarostyngedig i is-adran (4) rhaid i’r awdurdod lleol leoli C yn y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael, yn ei farn ef.

(3)Yn is-adran (2), ystyr “lleoliad” yw—

(a)lleoliad gydag unigolyn sy’n berthynas, yn ffrind neu’n berson arall sy’n gysylltiedig ag C ac sydd hefyd yn rhiant maeth awdurdod lleol,

(b)lleoliad gyda rhiant maeth awdurdod lleol nad yw’n dod o fewn paragraff (a),

(c)lleoliad mewn cartref plant, neu

(d)yn ddarostyngedig i adran 82, lleoliad yn unol â threfniadau eraill sy’n cydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon.

(4)Oni bai na fyddai’n gyson â dyletswyddau’r awdurdod lleol o dan adran 78, gan roi sylw i’r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (5)(a), rhaid i’r awdurdod sicrhau—

(a)os yw’n lleoli C mewn lleoliad sy’n dod o fewn paragraff (b) o is-adran (3), fod y lleoliad gyda rhiant maeth awdurdod lleol sydd wedi ei awdurdodi felly gan—

(i)yr awdurdod lleol,

(ii)awdurdod lleol gwahanol, neu

(iii)darparwr gwasanaeth‍ sydd wedi ei gofrestru yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

(b)os yw’n lleoli C mewn lleoliad sy’n dod o fewn paragraff (c) o is-adran (3), fod y lleoliad mewn cartref plant y mae un o’r personau a ganlyn wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef—

(i)yr awdurdod lleol,

(ii)awdurdod lleol gwahanol, neu

(iii)darparwr gwasanaeth‍ sydd wedi ei gofrestru yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

(5)Wrth benderfynu ar y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y Rhan hon, yn enwedig i’w ddyletswyddau o dan adran 78—

(a)rhoi sylw i’r canlynol—

(i)a fyddai llety’n cael ei ddarparu i C o fewn ardal yr awdurdod neu a fyddai C fel arall yn cael byw gerllaw cartref C;

(ii)a fyddai’n amharu ar addysg neu hyfforddiant C;

(iii)os oes gan C frawd neu chwaer sydd hefyd yn derbyn llety gan yr awdurdod lleol, a fyddai C yn gallu byw gyda’r brawd neu’r chwaer;

(iv)os yw C yn anabl, a yw’r llety a ddarperir yn addas i anghenion penodol C;

(v)os yw C eisoes yn cael ei letya mewn lleoliad yn unol ag is-adran (2), a fyddai symud C i leoliad arall yn amharu arno;

(b)rhoi blaenoriaeth uwch i leoliad sy’n dod o fewn paragraff (a) o is-adran (3) na’r hyn a roddir i leoliadau sy’n dod o fewn paragraffau eraill yr is-adran honno.

(6)Yn is-adran (4)(a) a (b), mae’r cyfeiriad at awdurdod lleol gwahanol yn cynnwys awdurdod lleol yn Lloegr.

(7)Rhaid i god a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 145 gynnwys darpariaeth ynghylch arfer swyddogaethau awdurdod lleol o dan yr adran hon.

81BY ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal: cais i gymeradwyo lleoliad atodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol leoli plentyn y mae’n gofalu amdano (“C”) yn y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael yn unol ag adran 81A(2),

(b)pan mai’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael, ym marn yr awdurdod lleol, yw lleoliad sy’n dod o fewn paragraff (b) neu (c) o adran 81A(3), ac

(c)pan na all yr awdurdod lleol gydymffurfio â’r gofyniad perthnasol yn adran 81A(4) mewn cysylltiad â’r lleoliad hwnnw.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol wneud cais i Weinidogion Cymru i gymeradwyo’r lleoliad.

(3)Rhaid i gais o dan is-adran (2) gynnwys—

(a)enw’r darparwr er elw neu’r darparwr preifat (fel y bo’n gymwys‍),

(b)telerau’r lleoliad (gan gynnwys telerau o ran talu),

(c)datganiad sy’n nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod o’r farn y byddai’n gweithredu yn anghyson â’i ddyletswydd o dan adran 78 pe na bai’n lleoli C gyda’r darparwr er elw neu’r darparwr preifat,

(d)gwybodaeth ynghylch sut y cydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan adran 81A yn y cod a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 145, ac

(e)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r lleoliad os ydynt wedi eu bodloni—

(a)bod y cais a wneir o dan is-adran (2) yn bodloni gofynion is-adran (3),

(b)yn achos lleoliad sy’n dod o fewn paragraff (b) o adran 81A(3), nad oes lleoliad amgen—

(i)sydd yr un mor briodol, a

(ii)sy’n bodloni’r amod yn adran 81A(4)(a),

(c)yn achos lleoliad sy’n dod o fewn paragraff (c) o adran 81A(3), nad oes lleoliad amgen—

(i)sydd yr un mor briodol, a

(ii)sy’n bodloni’r amod yn adran 81A(4)(b), a

(d)bod y lleoliad yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.

(5)Ond os ydynt yn penderfynu nad ydynt wedi eu bodloni yn unol ag is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu’r awdurdod lleol,

(b)rhoi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad hwnnw i’r awdurdod, ac

(c)cyfarwyddo’r awdurdod lleol i ailystyried, gan roi ystyriaeth i’r rhesymau hynny ac i unrhyw wybodaeth arall a bennir yn y cyfarwyddyd wrth wneud hynny.

(6)Os yw’r awdurdod lleol yn parhau i fod o’r farn, ar ôl ailystyried yn unol â’r cyfarwyddyd, mai’r lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C, rhaid iddo wneud cais pellach i Weinidogion Cymru i gymeradwyo’r lleoliad.

(7)Mae is-adrannau (3) i (6) yn gymwys i gais pellach am gymeradwyaeth fel y maent yn gymwys i gais cyntaf am gymeradwyaeth, ac eithrio bod rhaid i gais pellach am gymeradwyaeth gynnwys datganiad gan yr awdurdod lleol sy’n nodi—

(a)sut y rhoddodd yr awdurdod ystyriaeth i resymau Gweinidogion Cymru dros beidio â bod wedi eu bodloni yn unol ag is-adran (4) wrth ailystyried y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C, a

(b)y rhesymau pam y mae’r awdurdod yn parhau i fod o’r farn mai’r lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C.

(8)Cyfeirir at leoliad sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon fel “lleoliad atodol”.

81CY ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal: darpar fabwysiadwyr

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan—

(a)bo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (“C”),

(b)bo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni y dylai C gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu ac yn bwriadu lleoli C i’w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”),

(c)bo asiantaeth fabwysiadu wedi dyfarnu bod A yn addas i fabwysiadu plentyn, a

(d)na fo’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol leoli C gydag A oni bai y byddai’n fwy priodol yn ei farn—

(a)i wneud trefniadau er mwyn i C fyw gyda pherson sy’n dod o fewn adran 81(3), neu

(b)i leoli C mewn lleoliad o ddisgrifiad a grybwyllwyd yn adran 81A(3).

(3)At ddibenion is-adran (1)—

(a)mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption agency” gan adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

(b)nid yw awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu ond os yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny o dan—

(i)adran 19 o’r Ddeddf honno (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant), neu

(ii)gorchymyn lleoli a wneir o dan adran 21 o’r Ddeddf honno.

81DY ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal: pŵer i ddyfarnu telerau trefniadau lletya

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (“C”).

(2)Caiff yr awdurdod lleol ddyfarnu—

(a)telerau unrhyw drefniadau y mae’n eu gwneud o dan adran 81(2) mewn perthynas â phlentyn (gan gynnwys telerau o ran talu), a

(b)y telerau ar gyfer gosod C gyda rhiant maeth awdurdod lleol o dan adran 81A(2) neu gyda darpar fabwysiadydd o dan adran 81C(2) (gan gynnwys telerau o ran talu ond yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 49 o Ddeddf Plant 2004).