ID badges: Hide | Show

RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW

Swyddogaethau awdurdod lleol mewn cysylltiad â llety ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

12Dyletswydd i sicrhau llety: adrodd

Yn Neddf 2014, ar ôl adran 75C (fel y’i mewnosodir gan adran 11) mewnosoder—

75DDyletswydd i sicrhau llety: adrodd

Mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol y mae cynllun digonolrwydd blynyddol wedi ei wneud ar ei chyfer o dan adran 75A, rhaid i adroddiad blynyddol a lunnir gan awdurdod lleol o dan adran 144A nodi—

(a)sut y mae camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y flwyddyn ariannol honno wedi cynyddu (neu sut y disgwylir iddynt gynyddu) faint o lety sydd ar gael i’r awdurdod sy’n bodloni gofynion paragraffau (a) i (b) o adran 75(1);

(b)nifer y ceisiadau a wnaeth yr awdurdod lleol yn y flwyddyn ariannol honno am gymeradwyaeth i leoli plant mewn lleoliad atodol yn unol ag adran 81B;

(c)y rhesymau dros unrhyw wahaniaeth rhwng nifer y ceisiadau a ddarperir o dan baragraff (b) a nifer y ceisiadau yr oedd yr awdurdod lleol wedi amcangyfrif o dan adran 75A(3)(d)(i) y byddai’n eu gwneud yn ystod y flwyddyn.