RHAN 1GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 1DARPARU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT: CYFYNGIADAU AR ELW
Swyddogaethau awdurdod lleol mewn cysylltiad â llety ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
10Dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau digon o lety
section 10 1 (1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
section 10 2 (2)Mae adran 75 wedi ei diwygio fel y nodir yn is-adrannau (3) i (6).
section 10 3 (3)Yn is-adran (1)—
section 10 3 a (a)yn lle “camau sy’n sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol,” rhodder “pob cam rhesymol i sicrhau”;
section 10 3 b (b)ym mharagraff (a)—
section 10 3 b i (i)ar ôl “awdurdod,” mewnosoder “neu’n agos iddi,”;
section 10 3 b ii (ii)ar y diwedd, hepgorer “a”;
section 10 3 c (c)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)yn achos llety gyda rhiant maeth awdurdod lleol, yn llety gyda rhiant maeth sydd wedi ei awdurdodi felly gan berson a ddisgrifir yn adran 81A(4)(a),
(ab)yn achos llety mewn cartref plant, yn llety mewn cartref plant y mae person a ddisgrifir yn adran 81A(4)(b) wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef, a”.
section 10 4 (4)Yn is-adran (2), ym mharagraff (c), yn lle “yn ardal yr awdurdod” rhodder “o fewn ardal yr awdurdod, neu’n agos iddi,”.
section 10 5 (5)Yn is-adran (3), yn lle’r geiriau o “i fantais” hyd at y diwedd rhodder “i’r fantais bod ystod o lety—
“(a)sydd o fewn ardal yr awdurdod, neu’n agos iddi, a
(b)sy’n gallu diwallu gwahanol anghenion y plant a grybwyllir yn is-adran (2).”
section 10 6 (6)Yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “ystyr “darparwyr llety”” hyd at y diwedd rhodder “ac yn adran 75A, ystyr ”cartref plant” yw man yng Nghymru y mae gwasanaeth cartref plant (o fewn ystyr adran 2A(2) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) yn cael ei ddarparu ynddo.”.
section 10 7 (7)Yn adran 197(1), yn y diffiniad o “cartref plant”, ym mharagraff (b), ar y dechrau mewnosoder “ac eithrio yn adrannau 75 a 75A”.