ID badges: Hide | Show

ATODLEN 2TALIADAU UNIONGYRCHOL AM OFAL IECHYD: MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3)

schedule 2 paragraph 6 1 schedule 2 paragraph 6 schedule 2 paragraph 6 6(1)Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

schedule 2 paragraph 6 2 (2)Yn adran 1(5)—

schedule 2 paragraph 6 2 a (a)ym mharagraff (a), yn lle “a darparwyr gofal lliniarol” rhodder “, darparwyr gofal lliniarol a darparwyr gwasanaethau taliadau uniongyrchol”;

schedule 2 paragraph 6 2 b (b)ym mharagraff (b), yn lle “a gofal lliniarol” rhodder “, gofal lliniarol a gwasanaethau taliadau uniongyrchol”;

schedule 2 paragraph 6 2 c (c)ym mharagraff (c), yn lle “y materion gofal cymdeithasol a gofal lliniarol” rhodder “y materion sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol, gofal lliniarol a gwasanaethau taliadau uniongyrchol”;

schedule 2 paragraph 6 2 d (d)ym mharagraff (d), yn lle “a gofal lliniarol” rhodder “, gofal lliniarol a gwasanaethau taliadau uniongyrchol”;

schedule 2 paragraph 6 2 e (e)ym mharagraff (e), yn lle “a gofal lliniarol” rhodder “, gofal lliniarol a gwasanaethau taliadau uniongyrchol”.

schedule 2 paragraph 6 3 (3)Ym mhennawd Rhan 5, yn lle “a gofal lliniarol” rhodder “, gofal lliniarol a gwasanaethau taliadau uniongyrchol”.

schedule 2 paragraph 6 4 (4)Yn adran 42—

schedule 2 paragraph 6 4 a (a)yn is-adran (1), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau taliadau uniongyrchol.;

schedule 2 paragraph 6 4 b (b)yn is-adran (6)—

schedule 2 paragraph 6 4 b i (i)yn lle “64” rhodder “64A”;

schedule 2 paragraph 6 4 b ii (ii)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

  • darparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol” (“direct payment service provider”);;

  • ““gwasanaeth taliadau uniongyrchol” (“direct payment service);.

schedule 2 paragraph 6 5 (5)Yn adran 47(2)—

schedule 2 paragraph 6 5 a (a)ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer “neu”;

schedule 2 paragraph 6 5 b (b)ar ôl “awdurdod rhestredig” mewnosoder , neu

(e)darparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol.

schedule 2 paragraph 6 6 (6)Ar ôl adran 64 mewnosoder—

64AYstyr “gwasanaeth taliadau uniongyrchol” a “darparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol”

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “gwasanaeth taliadau uniongyrchol” yw gwasanaeth a ddarperir yng Nghymru neu yn Lloegr y mae taliadau uniongyrchol wedi cael eu gwneud mewn cysylltiad ag ef o dan adran 10B(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42), neu o dan reoliadau a wneir o dan adran 10B(6) o’r Ddeddf honno.

(3)Ystyr “darparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol” yw person sy’n darparu gwasanaethau taliadau uniongyrchol, ond nid yw’n cynnwys unigolyn—

(a)sydd yn cyflawni gweithgaredd sy’n ymwneud â darparu gofal cartref yng Nghymru neu yn Lloegr y mae taliadau uniongyrchol wedi cael eu gwneud mewn cysylltiad ag ef o dan adran 10B(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, neu o dan reoliadau a wneir o dan adran 10B(6) o’r Ddeddf honno,

(b)sydd yn cyflawni’r gweithgaredd heblaw mewn partneriaeth ag eraill,

(c)nad yw’n cael ei gyflogi gan gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig i’w gyflawni,

(d)nad yw’n cyflogi unrhyw berson arall i gyflawni’r gweithgaredd, ac

(e)sydd yn darparu neu’n trefnu i ddarparu gofal cartref i lai na phedwar o bobl.

(4)Mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol os ydynt yn cael eu cymryd gan—

(a)person a gyflogir gan y darparwr hwnnw,

(b)person sy’n gweithredu ar ran y darparwr hwnnw, neu

(c)person y mae’r darparwr hwnnw wedi dirprwyo unrhyw swyddogaethau iddo.

(5)Hefyd, mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol—

(a)os yw’r darparwr hwnnw yn darparu gwasanaethau taliadau uniongyrchol drwy drefniant gyda pherson arall, a

(b)os yw’r camau gweithredu yn cael eu cymryd gan y person arall neu ar ran y person arall wrth roi’r trefniant ar waith.

schedule 2 paragraph 6 7 (7)Yn adran 71(1)(d)(i), yn lle “neu ddarparwr gofal lliniarol annibynnol” rhodder “, darparwr gofal lliniarol annibynnol neu ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol”.

schedule 2 paragraph 6 8 (8)Yn adran 78(1), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

  • mae i “darparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol” (“direct payment service provider”) yr ystyr a roddir gan adran 64A(3);;

  • mae i “gwasanaeth taliadau uniongyrchol” (“direct payment service) yr ystyr a roddir gan adran 64A(2);.

schedule 2 paragraph 6 9 (9)Yn adran 79—

schedule 2 paragraph 6 9 a (a)ar ôl is-adran (1)(f) mewnosoder—

(g)yn gyn-ddarparwyr gwasanaethau taliadau uniongyrchol.;

schedule 2 paragraph 6 9 b (b)ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(7A)Ystyr “cyn-ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol” yw person—

(a)a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn darparu gwasanaethau taliadau uniongyrchol o ddisgrifiad penodol, a

(b)sydd, ar ôl hynny, wedi peidio â gwneud hynny (pa un a yw’r person wedi dechrau gwneud hynny eto’n ddiweddarach ai peidio).

schedule 2 paragraph 6 10 (10)Yn Atodlen 1—

schedule 2 paragraph 6 10 a (a)ym mharagraff 6(1)(f), yn lle “neu’n ddarparwr gofal lliniarol annibynnol;” rhodder “, yn ddarparwr gofal lliniarol annibynnol neu’n ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol;”;

schedule 2 paragraph 6 10 b (b)ym mharagraff 15(7)(a), yn lle “neu ddarparwr gofal lliniarol annibynnol” rhodder “, darparwr gofal lliniarol annibynnol neu ddarparwr gwasanaeth taliadau uniongyrchol”.