RHAN 3CYFFREDINOL
27Dehongli cyffredinol
Yn y Ddeddf hon—
term deddf 2006 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);
term the 2014 act term deddf 2014 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4);
term the 2016 act term deddf 2016 ystyr “Deddf 2016” (“the 2016 Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2).
28Darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.
section 28 1 (1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
section 28 1 a (a)gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;
section 28 1 b (b)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.
section 28 2 (2)O ran rheoliadau o dan yr adran hon—
section 28 2 a (a)cânt ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, gan gynnwys y Ddeddf hon;
section 28 2 b (b)maent i’w gwneud drwy offeryn statudol.
section 28 3 (3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan yr adran hon ac sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
section 28 4 (4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.
section 28 5 (5)Yn is-adran (3), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—
section 28 5 a (a)Deddf gan Senedd Cymru;
section 28 5 b (b)Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
section 28 5 c (c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
29Dod i rym
section 29 1 (1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
section 29 1 a (a)yn Rhan 1—
section 29 1 a i (i)adrannau 1, 16, 21 a 22 (i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 3(b) o Atodlen 1);
section 29 1 a ii (ii)paragraffau 2(1) a (6), 3(b), 5(1) a (4), 7(1), (3), (4), (14) a (15) o Atodlen 1;
section 29 1 b (b)yn Rhan 2, adrannau 23 a 26;
section 29 1 c (c)y Rhan hon.
section 29 2 (2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
section 29 3 (3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
30Enw byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025.